SL(5)366 - Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Cefndir a Diben

Gwneir y Rheoliadau drafft hyn o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Deddf 2018). Maent yn ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau drafft hyn yn diwygio naw darn o is-ddeddfwriaeth ym maes bwyd ac amaethyddiaeth:

      Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

      Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

      Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

      Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

      Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

      Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

      Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

      Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

      Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017.

Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn gwneud mân newidiadau technegol i sicrhau y bydd rheoliadau Cymru, sy'n darparu ar gyfer gweithredu cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu a chynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a reoleiddir, yn parhau i gael eu gweithredu ac y gellir eu gorfodi yng Nghymru ar ôl i'r DU adael yr UE.

Fodd bynnag, mae'r diwygiadau i Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 hefyd yn darparu, o'r diwrnod gadael, bod yn rhaid i ddŵr o'r UE/AEE, fel dŵr o drydydd gwledydd eraill, gael eu cydnabod fel dŵr mwynol yng Nghymru/y DU cyn eu gosod ar y farchnad yng Nghymru. Mae hyn yn amodol ar ddarpariaeth drosiannol sy'n parhau mewn grym y gydnabyddiaeth bresennol yng Nghymru o ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir cyn diwrnod ymadael â'r UE/AEE hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi hysbysiad y bydd cydnabyddiaeth o'r fath yn dod i ben.  

 

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Craffu ar faterion technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.

      Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn croesawu eglurder a manylion y Memorandwm Esboniadol a faint y mae hynny'n helpu'r Pwyllgor i graffu'n effeithiol.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Bydd yr is-ddeddfwriaeth a ddiwygir gan y Rheoliadau drafft hyn yn golygu “cyfraith yr UE a ddargedwir” at ddibenion Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Gall hynny fod â goblygiadau ar gyfer cymhwysedd y Cynulliad, gan y gellid atal y Cynulliad rhag addasu cyfraith yr UE a ddargedwir, drwy reoliadau Llywodraeth y DU o dan adran 12 o Ddeddf 2018 (a elwir yn rheoliadau "rhewi" yn aml).

Fodd bynnag, ni ellir "rhewi" y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth o sylwedd a wneir gan y Rheoliadau drafft hyn fel eu bod y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad, gan y gallai'r Cynulliad fod wedi gwneud y ddarpariaeth gyfatebol o dan gyfraith yr UE cyn Brexit. Un eithriad fyddai'r darpariaethau yn rheoliad 8, sy'n darparu mecanwaith i Weinidogion Cymru roi'r gorau i gydnabod dŵr mwynol naturiol a gafodd gydnabyddiaeth mewn Gwladwriaethau eraill yn yr UE/AEE cyn y diwrnod ymadael. Ni allai'r Cynulliad fod wedi terfynu cydnabyddiaeth o'r fath cyn Brexit, gan y byddai gwneud hynny yn mynd i groes i gyfraith yr UE. Fodd bynnag, gallai adfer y gydnabyddiaeth honno yn y dyfodol, gan y byddai gwneud hynny yn gydnaws â chyfraith yr UE cyn Brexit - hyd yn oed pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud rheoliadau rhewi i'r perwyl hwnnw.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

6 Mawrth 2019